Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Medi 2016
Amser: 09.15 -
12.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3703
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Hywel Dafydd, Comisiynydd Plant Cymru Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Sarah Watkins, Llywodraeth Cymru Dr Heather Payne, Prif Swyddog Feddygol, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML (278KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Rhoddodd y Comisiynydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Cytunodd y Comisiynydd i barhau i ddiweddaru’r Pwyllgor am ei thrafodaethau â Llywodraeth Cymru ac eraill o ran datblygu prosesau i fynd i’r afael â bwlio.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor ar yr amlinelliad o’i flaenraglen waith dros dro ar gyfer tymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod nesaf, ochr yn ochr â’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad cyhoeddus y Pwyllgor ar ei flaenoriaethau.
O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Hefin David AC ei fod yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar eu meysydd cyfrifoldeb.
Cytunodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu copi o’r llythyr a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ynghylch Strategaeth y DU ar Ordewdra ymysg Plant.
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ddarparu:
· Nodyn ar nifer y nyrsys ysgol yng Nghymru;
· Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad a gaiff ei gynnal gan y Prif Swyddog Nyrsio ar nyrsio ysgol; ac
· Y cynlluniau diweddaraf o ran y datblygiadau newyddenedigol newydd yng Nghaerdydd.
Nodwyd y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.